

Archebwch eich parti rŵan
O £9.99 y plentyn.
Sylwch ein bod yn derbyn archebion partïon pen-blwydd bythefnos ymlaen llaw. Dewiswch y dyddiad a ffefrir gennych chi o’r gwymplen a dewiswch amser eich parti.
Partïon TAG Ninja
Ein harena TAG Active llawn cyffro ydi’r cyntaf yng Nghymru ac Arena TAG Iau yw’r cyntaf yn y DU ac mae’n lleoliad penigamp ar gyfer unrhyw barti pen-blwydd. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud ydi dewis y diwrnod a’r amser ar gyfer eich parti, gwahodd eich ffrindiau ac fe wnawn ni’r gweddill i chi!
Pryd mae modd i mi archebu parti?
Mae’r partïon rydym ni’n eu cynnig yn dechrau am 4.30pm o ddydd Mercher i ddydd Gwener. Ar benwythnosau, yr amseroedd sydd ar gael ydi 10.30am, 1.30pm a 4.30pm. Yn ystod gwyliau ysgol Cymru, gallwn gynnal partïon am 10.30am, 1.30pm a 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.


Beth ydw i’n ei gael mewn parti TAG Ninja?
Bydd hyfforddwr yno i’ch hyfforddi trwy 2 gêm 20 munud yn yr arena, ac yna caiff pob aelod o’r parti dro yn y Tŵr Seiber. Yna bydd pryd o fwyd a diod penblwydd i ddilyn. Mae yna jygiau o ddiod meddal wrth law hefyd i bawb eu hefyd trwy gydol eu her.
Faint yw pris parti TAG Active?
Y pris ar gyfer y Brif Arena ydi £15.95 y pen a’r pris ar gyfer yr Arena Iau ydi £11.50 y pen. Y nifer isaf ar gyfer parti yw 10 o blant.
Dewch yn Ninja am y diwrnod
Os ydych chi rhwng 900cm a 1.2m yna’r Strwythur Iau yw’r lle gorau i gael eich parti pen-blwydd! Brwydrwch eich ffrindiau ac ail-lenwi gyda’n dewisiadau bwyd parti blasus
Cymerwch her Ninja TAG!
Nid oes terfyn oedran ar ben-blwyddi Ninja TAG, p’un a ydych chi’n 4 neu’n 40 mae gennym rywbeth i chi! Gallwn deilwra pob parti i’ch ffitio chi ac rydyn ni’n llogi unigryw ar gyfer archebion mwy!
Parti gyda Ninja TAG
Ydych chi eisiau dathlu’ch pen-blwydd gyda’ch ffrindiau ond ddim eisiau jeli a hufen iâ? Parti gyda Ninja TAG a malu trwy’r strwythur oedolion, gan gynnwys bargeinion prydau blasus ac opsiynau alcohol hefyd!!
Unrhyw wybodaeth arall:
Mae cyfyngiadau taldra yn weithredol: Mae’r prif strwythur TAG i bobl 1.2m o daldra ac mae’r strwythur TAG Iau ar gyfer pobl sydd yn dalach na 900cm ac yn llai na 1.2m.
Mae angen i chi brynu band arddwrn digidol ar gyfer TAG Ninja – bydd y teclyn yn cadw trac o’ch sgôr a gallwch ei ddefnyddio pan fyddwch chi’n ymweld dro ar ôl tro! Maent ar gael i’w prynu am £1 o’r dderbynfa. Gallwch eu defnyddio ar y Tŵr Seiber hefyd!

Llenwch eich hawlildiad TAG Ninja
Er mwyn chwarae TAG Ninja Active, mae’n rhaid i chi lenwi hawlildiad yn gyntaf. Y ffordd hawsaf o wneud hyn yw ar-lein pan fyddwch chi’n archebu eich sesiwn TAG. Mae llenwi hawlildiad ymlaen llaw yn cyflymu’r broses o gofrestru ar y diwrnod.