


PRISIAU
Pris Ar-lein/Online Price | ||
Prif strwythur/Main structure | £10.00 | |
TAG Lau/TAG Junior | £7.00 |
Mae’r cwrs rhwystrau aml-lefel dan-do gwych yma yn debyg i Total Wipeout a Ninja Warrior, ac mae’r cyfan yn un profiad cyffrous. Profwch eich sgiliau, ffitrwydd a dewrder wrth i chi ruthro trwy’r Môr o Raffau, rasio yn erbyn eich ffrindiau ar y Bibell Chwarter a cheisio taro bob targed ar y Wal Pry Cop. Gyda gemau ugain munud o hyd, 21 her, 4 lefel ac 80 targed – pwy fyddwch chi’n ei herio?
Er mwyn wynebu’r prif strwythur TAG Ninja, rhaid i chi fod yn dalach na 1.2m. Mae’ch tocyn yn golygu y cewch chi 2 gêm 20 munud o hyd, gydag amser yn y canol i gael rhywbeth bach i fwyta yng nghaffi’r TAG Ninja. Bydd eich band arddwrn electronig yn cadw’ch sgôr ac ar ôl i chi orffen eich gêm, bydd cyfanswm eich pwyntiau yn ymddangos ar brif sgorfwrdd TAG Ninja. Bydd eich bandiau arddwrn yn gweithio ar gyfer ymweliad yn y dyfodol, felly gallwch ddod nôl dro ar ôl tro i geisio curo eich sgôr!
Mae TAG Iau yn debyg strwythur yr oedolion, ond mae’n addas i’r rhai sydd rhwng 900cm a 1.2m o daldra. Yn fersiwn byrrach a llai dwys na TAG i Oedolion, TAG Iau yw’r cyntaf o’i fath yn y DU a thu hwnt. Mae’r strwythur hwn yn debyg i strwythur TAG Oedolion ac mae’n profi ystwythder, dewrder a sgil cystadleuwyr. Mae tocynnau TAG Iau yn cynnwys 2 gêm sydd tua 20 munud o hyd ac mae’r sesiynau wedi’u dylunio i roi egwyl o 15 munud i gyfranogwyr rhwng y ddwy gêm i gael rhywbeth bach i fwyta a’i yfed yn y Caffi TAG a’r ardal eistedd.
Bydd pob chwaraewr yn gallu gweld eu sgôr ar y sgorfwrdd TAG Iau a chymharu eu pwyntiau gyda’u ffrindiau, cyn mynd nôl i mewn i roi cynnig arall arni! Mae bandiau arddwrn TAG Iau yn £1 a gellir eu defnyddio pan fyddwch chi’n ymweld ag arenas TAG yn y dyfodol.
Sylwch: Mae bandiau arddwrn TAG Active yn £1 a gellir eu defnyddio pan fyddwch chi’n ymweld ag arenas TAG yn y dyfodol.
Parti TAG Ninja
Rhwystrau TAG Ninja
Pwll Peli Anferth
Pwll peli mwyaf yr ardal, cyrhaeddwch y gwaelod a tharwch y targedau cudd ar yr un pryd.
Pibell Chwarter TAG
Rhuthrwch i fyny’r wal i daro’r targed a llithrwch yn ôl i lawr, ond allwch chi daro’r coch?
Pont Raffau Byrma
Peidiwch ag edrych i lawr! Siglwch y bont a tharwch y targedau tra’n croesi’r bont raffau.
Wal Gir-verse
Wal ddringo heb ei debyg, tarwch y targedau tra’n aros ar y wal, neu dechreuwch y rhwystr eto!
Dringfa Cargo
Defnyddiwch gryfder a chyflymder i gyrraedd copa’r Ddringfa Cargo, gan daro’r holl dargedau ar hyd y ffordd.
Wal Pry Cop
Peidiwch â chyffwrdd y llawr a chyrhaeddwch yr ochr arall tra’n taro’r targedau, ond peidiwch ag edrych i lawr!
Neidio ar Beli
Profwch eich cydbwysedd a neidiwch ar y peli, gan daro’r targedau wrth i chi fynd.
Môr o Raffau
Dringwch drwy’r Môr o Raffau, cyrhaeddwch yr ochr arall a tharwch y targedau.
Ystafell Peli Mawr
Brwydrwch yn erbyn eich ffrindiau trwy’r peli clir i gyrraedd y targedau.
Tŵr Seiber TAG Ninja
Ychwanegwch yr her yma i’ch gêm TAG Ninja am £2.00 yn unig
Rhuthrwch i frig y Tŵr Seiber, tarwch darged TAG a rhuthrwch yn ôl i lawr yn yr amser cyflymaf i sicrhau eich lle ar sgorfwrdd y Tŵr Seiber. Heriwch eich ffrindiau neu curwch eich sgôr eich hun, allwch chi gyrraedd y copa yn ddigon cyflym?

Llenwch eich hawlildiad TAG Ninja
Er mwyn chwarae TAG Ninja Active, mae’n rhaid i chi lenwi hawlildiad yn gyntaf. Y ffordd hawsaf o wneud hyn yw ar-lein pan fyddwch chi’n archebu eich sesiwn TAG. Mae llenwi hawlildiad ymlaen llaw yn cyflymu’r broses o gofrestru ar y diwrnod.